AMDANOM NI…
Sefydlwyd CYNNAL yn 1996 gan Gyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn i ddarparu gwasanaethau addysgol cefnogol i ysgolion y ddwy sir. Erbyn heddiw, ein prif swyddogaeth yw darparu gwasanaethau cefnogi TGCh – trwy dîm o staff cefnogi SIMS, dylunwyr adnoddau, technegwyr cyfrifiadurol a thechnegwyr rhwydweithiol – i ysgolion Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Dinbych.
UNEDAU
Uned Technegol
Prif amcan Uned Gefnogaeth Dechnegol CYNNAL yw darparu ymgynghoriad a chymorth technegol i dros 250 o ysgolion yng ngogledd Cymru.
Mwy am waith yr uned…
Uned SIMS
Mae Uned Cefnogi SIMS CYNNAL yn wasanaeth proffesiynol, cwbl ddwyieithog sy’n darparu cyngor a chymorth rhagweithiol i ysgolion ac Awdurdodau Lleol i wneud defnydd llawn o’u Systemau Gwybodaeth Rheoli.
Mwy am waith yr uned…
Uned Datblygiadau’r We
Mae Uned Datblygiadau’r We CYNNAL yn cynhyrchu gwefannau, systemau ar-lein ac adnoddau addysgol digidol i ysgolion, Awdurdodau Lleol a nifer o Asiantaethau allanol eraill.
Mwy am waith Ddatblygu systemau yr uned…
Mwy am waith Adnoddau e-ddysgu yr uned…