TECHNEGOL
Prif amcan Uned Gefnogaeth Dechnegol CYNNAL yw darparu ymgynghoriad a chymorth technegol i dros 250 o ysgolion yng ngogledd Cymru. Mae gan yr uned dros 20 mlynedd o brofiad, ac mae ei hymroddiad yr un mor ymroddedig heddiw ag erioed i ddarparu’r gwasanaeth ddwyieithog gorau posib ac i sicrhau bod ysgolion yn gyfarwydd â’r technolegau diweddaraf.
Daw ein staff o amrywiaeth o gefndiroedd, gan gynnig eu profiadau unigol eu hunain i greu tîm proffesiynol. Rydym i gyd yn ddwyieithog ac yn gallu cynnig gwasanaeth cyfrwng Cymraeg neu Saesneg i’n cwsmeriaid. Mae nifer o’r staff wedi cymhwyso at lefel gradd a chanddynt gymwysterau proffesiynol gan Microsoft a Cisco.
Mae ein staff yn mynychu seminarau technegol a chyfarfodydd â chyflenwyr, partneriaid a staff cysylltiedig yn rheolaidd. Drwy hynny, rydym wedi ffurfio perthnasau gweithio agos ar draws y rhanbarth a thu hwnt.
Am fwy o wybodaeth am waith o ddydd i ddydd yr Uned cliciwch yma.
Cysylltu â’r adran:
01286 677686 yna 1 ac yna 2 neu 01286 671257
PROSIECTAU
TECHNEGOL
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi ymwneud ag amrediad eang ac amrywiol o brosiectau- y cyfan yn fwy na digon o waith i gadw’r rheolwr prosiect mwyaf ymroddedig yn brysur. Dyma rai o’r prosiectau a reolwyd ganddom dros y 3 / 4 blynedd olaf: