Y DDAEAR
GYNALIADWY

Adnodd hanfodol ar gyfer CA2 yn bennaf. Mae’n cyflwyno’r agwedd “Y Ddaear gynaliadwy” o gwricwlwm Gwyddoniaeth CA2, ac mae wedi ei strwythuro i adlewyrchu’r meysydd yn y cwricwlwm:
– Symudiadau beunyddiol a blynyddol y Ddaear
– Yr haul a’r planedau yng nghysawd yr haul
– Cymharu defnyddiau
– Priodweddau defnyddiau
Mae’r ap wedi ei ddylunio fel un gellir ei ddefnyddio o flaen dosbarth gan athro, neu gan ddisgyblion yn unigol.
Mae’r ap yn cynnwys gwybodaeth, animeiddiadau a gweithgareddau i ddiddori, herio a chymhwyso gwybodaeth y disgyblion.
Ar gael am ddim ar iPad, iPhone a Chyfrifiaduron Mac