SWYDD WAG
PENNAETH DATBLYGIADAU’R WE
Pennaeth Datblygiadau’r We
(£43,857 – 46,485)
Rydym yn chwilio am Bennaeth Datblygiadau’r We i arwain tîm o bump o staff. Mae’r tîm yn datblygu deunyddiau addysgiadol aml-gyfrwng, datblygu systemau arlein a gwefannau. Bydd y prif ddyletswyddau’n cynnwys :
• Arwain a bod yn rheolwr llinell ar dîm o 5
• Arwain, rheoli a darparu prosiectau datblygu adnoddau digidol a systemau ar-lein
• Cyfrifoldeb am amrywiaeth o dasgau uwch fel; cynllunio, dylunio, profi, gweithredu, cefnogi a rheoli’r holl ddatrysiadau digidol a ddatblygwyd.
• Cyfathrebu gyda cleientiaid / asiantaethau allanol i ganfod datrysiadau ac i arddangos datblygiadau.
• Ymateb i dendrau a marchnata ein systemau i ddenu incwm
Am fwy o wybodaeth ffoniwch Ieuan Williams ar 01286 685413
Dyddiad Cau : 08/02/2021
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.