DATBLYGU
SYSTEMAU
Mae’r Uned Datblygiadau’r We yn cynhyrchu gwefannau a systemau ar-lein arloesol ym myd addysg ers 1998.
Mae’r Uned gyda phrofiad helaeth o ddatblygu systemau rheoli ar gyfer ysgolion / awdurdodau / asiantaethau allanol eraill, ac yn cartrefu llwyfannau dysgu (megis moodle) i ysgolion ac awdurdodau addysg. Maent hefyd yn adrodd ar ddata asesiadau athrawon CS / CA2 / CA3 a data arholiadau CA4 a 5 Gwynedd a Môn. Mae’r Uned wedi creu nifer o systemau arloesol gwreiddiol yn cynnwys Systemau Arfarnu ddefnyddir gan ysgolion ledled Cymru.
Mae gan CYNNAL dîm datblygu cryf a phroffesiynol gyda phrofiad eang mewn amrywiaeth o feysydd – yn cynnwys:
- Arlunwaith gwreiddiol
- Dylunio graffeg
- Dylunio a datblygu gwefannau rhyngweithiol
- Datblygu systemau rheolaethol ar-lein
- Creu a dadansoddi holiaduron / dadansoddi data
- Rheoli a chartrefu llwyfannau dysgu
Mae’r Uned hefyd yn paratoi cymorth technegol a gweinyddol ar ddefnydd o’r gwefannau / systemau maent yn ei datblygu.
Am fwy o wybodaeth am unrhyw wasanaeth rydym yn ei gynnig, cysylltwch â adnoddau@cynnal.co.uk
01286 677686 yna 1 ac yna 3 neu 01286 685410
SYSTEMAU
A GWEFANAU
Dyma enghreifftiau o rhai o’r systemau a gwefannau rydym wedi eu datblygu i gleientiaid allanol.