ADNODDAU
E-DDYSGU
Mae’r Uned Datblygiadau’r We yn cynhyrchu adnoddau addysgol digidol ers 2001 ac maent wedi gweld dipyn o newidiadau ym myd addysg a thechnoleg yn y cyfnod yma!
Mae’r Uned yn dîm profiadol gyda blynyddoedd o gyd-weithio gyda’i gilydd ac awduron allanol er mwyn cynhyrchu adnoddau o’r safon uchaf. Maent â phrofiadau ac arbenigeddau cyfoethog fel tîm i ymgymryd â chyflawni prosiectau amrywiol. Mae’r tîm a’r rheolwyr gyda phrofiad mewn cyd-weithio gyda chwmnïau ac arbenigwyr allanol i greu adnoddau i nifer o gleientiaid lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol gwahanol.
Mae gan CYNNAL dîm datblygu cryf a phroffesiynol gyda phrofiad eang mewn amrywiaeth o feysydd – yn cynnwys:
- Gwaith ffilmio / cynhyrchu fideo (ac yn berchen offer a meddalwedd proffesiynol ei hunain)
- Gwaith recordio / golygu sain (ac yn berchen offer a meddalwedd proffesiynol ei hunain)
- Arlunwaith gwreiddiol
- Animeiddiadau gwreiddiol
- Dylunio a datblygu gwefannau rhyngweithiol statig a deinamig
- Creu aps ac e-Lyfrau rhyngweithiol aml-blatfform (e.e. ap “Trydan a Chi” i gwmni Horizon)
Mae gan yr Uned brofiad o ddatblygu adnoddau ar gyfer ystod o oedrannau – Cyfnod Sylfaen, CA2, CA3/4/5 ac Addysg Bellach. Mae gwaith yr Uned i’w weld ar safwe CYNNAL, iTunes, HWB, CBAC, GwE a gwefan adnoddau rheolaethol ac addysgol Awdurdod Addysg Gwynedd a Môn.
Am fwy o wybodaeth am unrhyw wasanaeth rydym yn ei gynnig, cysylltwch â adnoddau@cynnal.co.uk
01286 677686 yna 1 ac yna 3 neu 01286 685410
PROSIECTAU
E-DDYSGU
Dyma enghreifftiau o rhai o’r prosiectau rydym wedi ei ddatblygu i nifer o gleientiaid. Ceir amrywiaeth o adnoddau (Aps, e-lyfrau, adnoddau HTML5) ar gyfer ystod eang o oedrannau.